Ymchwiliad i Ordewdra ymysg Plant

 

Mae Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i ordewdra ymysg plant. 

 

Nod cyffredinol yr ymchwiliad yw: 

 

adolygu pa mor effeithiol yw rhaglenni a chynlluniau Llywodraeth Cymru sydd â'r nod o ostwng lefel gordewdra ymysg plant yng Nghymru, a nodi meysydd lle y gallai fod yn fuddiol rhoi camau ychwanegol ar waith.

 

Bydd yr ymchwiliad yn cynnwys y ffactorau o ran ffordd o fyw sy’n cyfrannu at ordewdra ymysg plant, y cymorth sydd ar gael i blant sydd dros bwysau a’r driniaeth (clinigol a heb fod yn glinigol) ar gyfer plant sy’n ordew a’u teuluoedd.

 

Er mwyn cynorthwyo ei ymchwiliad, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar unrhyw un neu'r holl bwyntiau a ganlyn:

 

1.   Pa mor ddifrifol yw sefyllfa gordewdra ymysg plant yng Nghymru, ac a yw ffactorau fel lleoliad daearyddol neu gefndir cymdeithasol yn effeithio ar hyn mewn unrhyw fodd;

 

2.   Dulliau mesur effeithiolrwydd a gwerthuso rhaglenni a chynlluniau Llywodraeth Cymru sydd â'r nod o ostwng lefel gordewdra ymysg plant yng Nghymru, gan gynnwys yn benodol:

 

o   Rhaglenni sy'n ymwneud ag Iechyd, gan gynnwys 'Newid am Oes', MEND,

o   Rhaglenni sy'n ymwneud â maethiad mewn ysgolion, gan gynnwys 'Blas am Oes',

o   Rhaglenni trawsbynciol, er enghraifft rhaglenni sy'n gysylltiedig â hamdden a chwaraeon (Creu Cymru Egnïol); polisi cynllunio; a

 

3.   Y rhwystrau sydd i ostwng lefel gordewdra ymysg plant yng Nghymru;

 

4.   A oes angen gwella rhaglenni a chynlluniau Llywodraeth Cymru mewn unrhyw fodd, ac a oes modd ymchwilio i unrhyw gamau ychwanegol.

 

 

Efallai yr hoffech gyflwyno unrhyw dystiolaeth arall y teimlwch sy'n uniongyrchol berthnasol i'r cylch gorchwyl uchod. 

 

 

 

 

 

Gwahoddiad i gymryd rhan yn yr ymchwiliad

 

Mae'r Pwyllgor yn croesawu ymatebion gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o rôl y sefydliad.

 

Mae'r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg a bydd yn ystyried yr ymatebion i'r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr haf. 

 

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i PwyllgorPPI@cymru.gov.uk

 

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

 

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1NA

 

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn dydd Gwener 3 Mai 2013. Mae'n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Datgelu Gwybodaeth 

 

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

 

Os cawn gais am wybodaeth o dan ddeddfwriaeth y DU, mae'n bosibl y bydd angen datgelu'r wybodaeth a gawsom gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

 

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich cyfrifoldeb chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.